Mynd i'r cynnwys
Gŵyl Fel 'na Mai

Mai 04 2024

  • 00Diwrnod
  • 00Awr
  • 00Munud
  • 00Eiliad
GFNM24

Mwy o wybodaeth am Gŵyl Fel ‘Na Mai 2024 cyn hir.

A photo of Candelas

Candelas

Bydd y band roc o Lanuwchlyn yn galw yng Nghrymych fel rhan o’u taith yn hyrwyddo eu halbwm newydd ‘Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae?’

Llun o Bwncath

Bwncath

Ma nhw nôl!
Band gwerin Cymraeg o Gaernarfon yw Bwncath- enillwyr gwobr Band Gorau Y Selar 2020. Ffurfiwyd y band pedwar-aelod yn 2014.

A photo of Gwilym

Gwilym

Grŵp pop roc Cymraeg o Ynys Môn a Chaernarfon yw Gwilym. Mae’r band yn cynnwys yr aelodau Ifan Pritchard, Llyr Jones, Llew Glyn, Rhys Grail, a Carwyn Williams.

…a llawer mwy!

Tocynnau

Tocynnau Gŵyl Fel ‘na Mai 2024 ar werth cyn hir.

Gweithgareddau amrywiol ar gyfer ystod o oed

Bydd ardal fwyd a bar yn cynnig amrywiaeth o fwydydd a diodydd

Dewch i fwynhau gweithgareddau yn y Gymraeg!

Gŵyl Fel 'Na Mai

Richard a Wyn

Gwobr Goffa Richard a Wyn

Cystadleuaeth flynyddol i wobrwyo artistiaid ifanc newydd o Sir Benfro, Sir Gâr neu Geredigion a rhoi hwb i’w gyrfa cerddorol.

Mentrau Iaith Cymru a Pyst

yn cyflwyno HMS Morris, Mali Hâf a Band Dros Dro
Canolfan Hermon, Crymych
Ebrill 7fed 19:30

HMS Morris
Gweithdy Gitars

Gweithdy Iwcaleli, Gitâr a Mandolin

Bydd iwcalelis ar gael i’w defnyddio ar y noson.
 
Clwb Rygbi Crymych
 
Gweithdy nesaf ar Nos Iau, Ebrill 6ed, 7yh

Gwerin Fel 'Na Mai

Noson o ganu, jamio a chodi hwyl!
Dewch i Glwb Rygbi Crymych am noson o gyd-ganu anffurfiol.
Os ydych yn gallu chwarae offeryn, croeso i chi gyfeilio i’r canu neu gael sesiwn o jamio.
Gitar, iwcaleli, mandolin, bongos, ricordyr, tamborin, triongl…
 
Ebrill 14eg, 19:30
Gwerin Fel 'Na Mai

Cofrestrwch yma i dderbyn y newyddion a’r cynigion diweddaraf

Gwybodaeth

Gŵyl gerddorol ar safle Parc Gwynfryn wrth odre’r Frenni Fawr ym Mro’r Preseli, gogledd Sir Benfro yw Gŵyl Fel ‘na Mai.

cy