Cwestiynau Cyffredinol
Mae atebion i’r rhan fwyaf o ymholiadau a chwestiynau i’w gweld isod
Ble gallaf brynu tocynnau?
Gallwch brynu tocynnau yma.
Faint yw'r tocynnau?
Tocynnau oedolion: £25 + ffi archebu
Tocynnau 14-18: £20 + ffi archebu
Tocynnau 8-13: £2 + ffi archebu
Tocyn o dan 8: Am ddim (dim mwy na dau docyn o dan 11 am bob 1 tocyn oedolyn)Prisiau Gostyngedig (nifer cyfyngedig)
Tocynnau oedolion: £23 + ffi archebu
Tocynnau 14-18: £18 + ffi archebuPam fod yna ffi archebu?
Nid yw prisiau tocynnau yn cynnwys ffioedd archebu - cânt eu gosod gan yr asiant tocynnau. Mae rhedeg asiantaeth docynnau yn costio – (safle, TG, staff, cyfathrebu, comisiwn cardiau credyd ac ati). Mae ffi yn cael ei gyfrifo fel canran o bris pob tocyn ac yn cael ei ychwanegu gan yr asiantau ar ben gwerth tocyn i dalu am eu costau gwerthu ac fel tâl am y gwasanaeth a ddarperir ganddynt.
Pryd fyddaf yn derbyn fy nhocyn?
Bydd eich e-docyn yn cael ei e-bostio atoch o fewn 24 awr ar ôl ei brynu. Os na fyddwch wedi ei dderbyn, edrychwch yn eich ffolder sbam neu cysylltwch â ni.
A fyddaf yn gallu prynu tocynnau ar y diwrnod?
Gall tocynnau fod ar gael ar y diwrnod, yn amodol ar argaeledd. Rydym yn argymell eich bod yn prynu eich tocynnau ymlaen llaw.
A allaf gael ad-daliad am fy nhocyn?
Ar ôl eu prynu, ni ellir ad-dalu na dychwelyd tocynnau oni bai bod y digwyddiad yn cael ei ganslo. Os caiff yr ŵyl ei chanslo a'i haildrefnu ar gyfer y flwyddyn nesaf, bydd eich tocyn dal yn ddilys.
Mae gennyf gwestiwn arall ynglŷn â phrynu tocyn
Cysylltwch â ni ar gyfer pob ymholiad am docynnau a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Ble mae'r ŵyl wedi'i lleoli?
Lleolir yr ŵyl ym Mharc Gwynfryn, Crymych, SA41 3RQ. Am gyfarwyddiadau, cliciwch yma.
Sut mae cyrraedd yr ŵyl?
Mae’r ŵyl mewn lleoliad cyfleus ychydig oddi ar brif ffordd yr A478 i’r gogledd o Grymych.
Bydd digon o le parcio, a man gollwng/casglu addas.
Mae Bws 430 (Aberteifi-Arberth) yn stopio yng Nghrymych. Gellir lawrlwytho'r amserlen ddiweddaraf yma.A fydd angen i mi ddangos fy ngherdyn adnabod?
Mae'n bosib y gofynnir i fynychwyr yr wyl ddangos cerdyn adnabod er mwyn profi ei hoed. Bydd band garddwrn penodol i bawb dros 18 er mwyn cal prynnu alcohol.
A oes unrhyw gyfyngiadau oedran?
Gŵyl deuluol yw Gŵyl Fel ‘na Mai. Nid oes unrhyw gyfyngiadau oedran, fodd bynnag mae angen i blant o dan 11 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Pwy fydd yn chwarae yn yr ŵyl?
Gallwch ddod o hyd i'r rhestr lawn o artistiaid a gyhoeddwyd hyd yma fan hyn.
Ble mae'r maes parcio agosaf?
Bydd digon o le parcio ar gael ar y safle.
Mae gen i fathodyn glas, ble alla i barcio?
Bydd mannau parcio penodol i ddeiliaid bathodynnau glas ger mynedfa’r ŵyl.
Faint o'r gloch bydd y maes parcio'n agor?
Bydd y maes parcio yn agor am 13:30. Os penderfynwch adael eich car yn y maes parcio dros nos, fe wneir hyn ar eich menter eich hun, a bydd rhaid clirio erbyn 12:00 ar yr 7fed o Fai.
Faint o'r gloch bydd y mynedfa yn agor?
Bydd y mynediad yn agor am 13:30.
Faint o’r gloch bydd yr ŵyl yn dechrau a gorffen?
Bydd yr ŵyl yn dechrau tua 13:45. Disgwyliwn i’r ŵyl orffen am 23:45.
Os bydd hi'n bwrw glaw, a fydd yr ŵyl yn dal i fynd yn ei blaen?
Ni allwn ddibynnu ar y tywydd yng Nghymru, felly paratowch ar gyfer pob tywydd! Bydd y prif weithgareddau yn cael ei cynnal y tu fewn.
A allaf ddod â bwyd a diod?
Mae croeso i chi ddod â bwyd ond ni chaniateir i chi ddod ag alcohol. Bydd amrywiaeth o werthwyr bwyd, a bydd diodydd - gan gynnwys diodydd alcoholig ar gael i'w prynu yn y bar. Bydd dŵr yfed ar gael am ddim. Gofynnwn yn garedig i chi waredi eich sbwriel yn y biniau a ddarperir.
A fyddwch chi'n datgelu amseroedd perfformio?
Mae amserlen y dydd bellach wedi'i chyhoeddi. Gellir gweld yr amserlen fan hyn. Sylwch fod yr amserlen yn fras a gallant newid.
Pa gyfleusterau anabl sydd ar gael ar y safle?
Mae Gŵyl Fel ‘na Mai wedi ymrwymo i sicrhau bod pob un o’n mynychwyr yn cael profiad cyfartal a chynhwysol lle bo modd.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar dir caled.
Bydd toiledau addas ar y safle.A ganiateir cŵn?
Yn anffodus, ni chaniateir anifeiliaid ar safle’r ŵyl ac eithrio cŵn cymorth cofrestredig neu gŵn cefnogaeth emosiynol.
A fydd ffotograffau neu ffilm fideo yn cael eu tynnu yn y digwyddiad?
Bydd Gŵyl Fel ‘na Mai yn tynnu lluniau a/neu ffilmio yn y digwyddiad. Gellir defnyddio'r delweddau hyn yn y ffyrdd canlynol:
- Cyhoeddusrwydd printiedig yr ŵyl
- Cyhoeddusrwydd ar-lein yr ŵyl (gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol)
- Eu rhannu â sefydliadau trydydd parti i'w ddefnyddio i hyrwyddo'r ŵyl
Cânt eu storio'n ddiogel ac ni chânt eu cadw am fwy o amser nag sydd eu hangen at y dibenion a restrir uchod.
Os byddai’n well gennych i chi neu’ch plentyn beidio â chael eich llun wedi ei thynnu na’ch ffilmio, cysylltwch ag aelod o staff ar y safle ac e-bostiwch: helo@felnamai.co.uk
Os hoffech weld eich lluniau, neu os hoffech i ni eu dileu, cysylltwch â: helo@felnamai.co.uk
Gall ffotograffiaeth neu ffilmio cymeradwy arall ddigwydd ar y safle. Siaradwch â'r criw yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw bryderon neu os byddai'n well gennych i chi neu'ch plentyn beidio â chael eich llun wedi ei thynnu na'ch ffilmio.
A fydd goleuadau strôb yn cael eu defnyddio?
Byddwch yn ymwybodol y gall rhai perfformiadau ddefnyddio goleuadau strôb/laser heb rybudd, gan all hyn effeithio ar bobol â epilepsi ffotosensitif.
A fydd unrhyw ddarpariaeth feddygol ar y safle?
Bydd pobl sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf ar y safle.
Beth yw eich polisi COVID-19?
Rydym yn deall eich amheuon ynghylch y pandemig presennol, ond rydym yn obeithiol y bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal eleni. Ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod pa ganllawiau, os o gwbl, fydd yn eu lle ar gyfer digwyddiadau mawr ym mis Mai 2023. Mae eich diogelwch yn hollbwysig i ni, ac os oes angen i ni ddiwygio ein gofynion mynediad neu ganllawiau Covid-19 cyn Gŵyl 2023 byddwn yn diweddaru deiliaid tocynnau. Rhaid i ddeiliaid tocynnau gydymffurfio â'r holl ddiweddariadau.
Er mwyn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar ein cwsmeriaid, bydd pob tocyn yn drosglwyddadwy i ŵyl y flwyddyn nesaf pe bai’n cael ei ganslo eleni. Byddwn yn cynnig ad-daliad ar bob tocyn pe bai angen canslo'r digwyddiad.
Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos ac yn edrych ymlaen at eich gweld yn yr ŵyl.