
Gwobr Goffa Richard a Wyn (Ail Symudiad)
Canolfan Hermon, SA36 0DT
Am bwy y’n ni’n chwilio?
Unrhyw fand neu artist sy’n gymharol newydd, ac o Geredigion, Sir Gâr neu Sir Benfro. Ydych chi’n fand ysgol? Yn ffrindiau coleg? Yn artist unigol sydd eisiau cyrraedd cynulleidfa? Side-project newydd? Ydych chi eisiau chwarae yng Ngŵyl Fel ‘Na Mai 2024 ac ennill gwobr ariannol? Ai chi fydd yr enw nesaf ar y tlws? Profiadol neu hollol ddi-brofiad, mae’r gystadleuaeth yn agored i chi. Mae Gwobr Goffa Richard a Wyn Jones yn edrych am sŵn cyfredol a sŵn y dyfodol yn ein hardal ni.
Yn agored i fandiau neu artist ifanc.
Rhaid perfformio yn Gymraeg.
Gall y perfformiad fod yn cynnwys canu neu offerynnol.
Set o ddim mwy na chwarter awr.
Oes gennych gân newydd, wreiddiol? Gorau i gyd ond nid yw hwn yn orfodol.

Cofrestru ar agor nawr.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Dafydd Vaughan drwy anfon ebost at: dafydd@mentersirbenfro.com
Gwobrau
- Tlws Coffa Richard a Wyn i’w gadw am flwyddyn (noddir gan Trefigin)
- Tlws i’w gadw (noddir gan Merch Megan)
- Gwobr ariannol o £200
- Cyfle i berfformio yng Ngŵyl Fel ‘Na Mai
Beiriniaid
Dafydd ac Osian Jones
Mei Gwynedd
Cleif Harpwood
Y Noson
i’w gyhoeddi
Enillwyr 2023 – Band Dros Dro






