Noddi
Hoffech chi noddi Gŵyl Fel ‘Na Mai?
Mae Gŵyl Fel ‘Na Mai yn chwilio am gymorth i gefnogi ein digwyddiad cymunedol sy’n hybu ein hiaith a’n diwylliant. Llwyddodd yr Ŵyl i ddenu oddeutu 1000 o bobol o bob oed y llynedd a gyda’ch cefnogaeth, bwriadwn barhau i gynnal yr Ŵyl yn flynyddol. Mae nifer o artistiaid mwyaf y sîn gerddoriaeth yng Nghymru eisoes wedi eu cadarnhau ar gyfer eleni a gwahoddir talentau lleol i berfformio yn ogystal. Eleni, er mwyn rhoi anogaeth a hwb i ieuenctid lleol, trefnir cystadleuaeth i unigolion a bandiau newydd ym mis Chwefror a bydd yr enillydd yn cael cyfle i berfformio ar un o lwyfannau’r Ŵyl. Bydd y gystadleuaeth hon yn cael ei chynnal yn flynyddol er cof am Richard a Wyn, y ddau frawd talentog o’r band lleol Ail Symudiad, gyda chefnogaeth noddwyr lleol. Hefyd, yn dilyn poblogrwydd yr Ardal Blant y llynedd, bwriedir ymestyn ac ehangu ar ddarpariaeth i blant eleni.
Yn ogystal a chael enw eich cwmni ar restr noddwyr ein gwefan a chydnabyddiaeth ar gyfryngau cymdeithasol, dyma’r buddion o noddi’r Ŵyl:
Noddwr
- Cyfle i arddangos eich deunydd marchnata yn yr Ŵyl, e.e. baner / pop yps
Noddwr
- 1 tocyn mynediad i'r Ŵyl
- Cyfle i arddangos eich deunydd marchnata yn yr Ŵyl, e.e. baner / pop yps
Noddwr
- 2 docyn mynediad i'r Ŵyl
- 2 docyn bwyd / bar
- Cyfle i arddangos eich deunydd marchnata yn yr Ŵyl, e.e. baner / pop yps
Noddwr Llwyfan
- 4 tocyn mynediad i'r Ŵyl
- 4 tocyn bwyd / bar
- Cyfle i arddangos eich deunydd marchnata ar un o lwyfannau'r Ŵyl, e.e. baner / pop yps
Prif Noddwr
- 6 tocyn mynediad i'r Ŵyl
- 6 tocyn bwyd / bar
- Cyfle i arddangos eich deunydd marchnata wrth y fynedfa ac ar ddau lwyfan yr Ŵyl, e.e. baner / pop yps
Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi, cysylltwch â ni.