Gwybodaeth
mwy o wybodaeth am yr ŵyl
Gŵyl gerddorol ar safle Parc Gwynfryn wrth odre’r Frenni Fawr ym Mro’r Preseli, gogledd Sir Benfro yw Gŵyl Fel ‘Na Mai.
Bydd rhai o dalentau mwyaf Cymru yn perfformio, ynghyd â thalentau lleol o gorau, chantorion unigol.
Bydd dau lwyfan; cyfleusterau bwyta yn cynnwys darpariaeth llysieuol a fegan; bar yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd; gweithgareddau addas ar gyfer plant a safleoedd parcio.
Mae croeso i bawb – yn unigolion, yn bârau, yn deuluoedd a phartïon o bell ac agos i ymuno yn hwyl yr ŵyl a mwynhau’r croeso a’r holl ddarpariaeth.
Am atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin, cliciwch yma.
Llwyfannau
Bydd dau lwyfan yng Ngŵyl Fel ‘Ma Mai – Llwyfan y Frenni a Llwyfan Foel Drigarn.