Mynd i'r cynnwys

Gwobr Goffa Richard a Wyn 2023

Ar noson Ddydd Miwsig Cymru cynhaliwyd cystadleuaeth i goffhau y ddau frawd annwyl ac unigryw,  Richard a Wyn Jones o’r band Ail Symudiad. Roedd hi’n bleser gwrando ar amrywiaeth o arddulliau o gerddoriaeth yn y Gymraeg gan dalentau ifanc yr hen Ddyfed, a mwy o fleser fyth oedd gweld eu brwdfrydedd wrth iddynt baratoi a pherfformio o flaen cynulleidfa luosog, gwerthfawrogol, a hynny am y tro cyntaf i’r mwyafrif ohonynt.

Cyflwynwyd y cystadleuwyr gan Mirain Iwerydd, sy’n wreiddiol o Grymych ac wedi gwneud enw iddi ei hun fel cyflwynydd ar Radio Cymru. Llwyddodd i dawelu nerfau’r cystadleuwyr a’u croesawu’n gynnes i’r llwyfan. Roedd hi’n fraint i ni fel trefnwyr bod Dafydd ac Osian Jones, meibion Richard, a oedd hefyd yn aelodau o Ail Symudiad wedi cytuno i feirniadu’r gystadleuaeth ar y cyd ag Elidyr Glyn o’r band Bwncath. Ar ôl pendronni am ychydig, dyfarnwyd mai Band Dros Dro, pedwar bachgen dawnus  o Sir Gâr oedd y buddugwyr ac edrychwn ymlaen i’w croesawu i berfformio yng Ngŵyl Fel ‘Na Mai.

Diolchwyd i’r holl gystadleuwyr am eu perfformiadau ac annogwyd hwy i ddal ati i ddatblygu eu doniau a magu hyder yn eu perfformiadau. Bydd cyfle iddynt hwy ac eraill gystadlu eto y flwyddyn nesaf, gan ymgeisio cipio’r wobr a gobeithio dilyn ôl troed Band Dros Dro

Yn dilyn cyflwyno’r tlws (noddwyd gan Cwmni Cware ac Olew Trefigin) a’r wobr ariannol (noddwyd gan Siop Awen Teifi a Dafydd Pantrod a’i Fand), cafodd y gynulleidfa fwynhâd o wrando a dawnsio i berfformiad  egnïol y band Bwncath ac edrychwn ymlaen i’w croesawu nhw hefyd yn ôl i’r Ŵyl ym mis Mai. Diolch i Menter Iaith Sir Benfro am ei nawdd a’i cefnogaeth i’r noson.

cy