Mynd i'r cynnwys

Gwobr Goffa Richard a Wyn 2024

Cafwyd noson arbennig yng Nghanolfan Hermon ar ddydd Miwsig Cymru eleni, sef Chwefror 9fed pan gynhaliwyd cystadleuaeth Gwobr Goffa Richard a Wyn am yr ail waith. Cystadleuaeth i goffhau’r ddau frawd o’r band Ail Symudiad yw hwn er mwyn annog cerddorion newydd, ifanc i berfformio yn unigol neu mewn band yn y Gymraeg. Mae pwyllgor Gŵyl Fel ‘Na Mai yn grediniol y bydde Richard a Wyn yn falch o’r digwyddiad, yn enwedig o gofio am eu diddordeb, eu brwdfrydedd a’u hangerdd wrth feithrin ac hyrwyddo talent newydd.

Cyflwynydd y noson oedd Ffion Emyr, cantores o fri o Gaernarfon a chyflwynwraig llawn bwrlwm ar Radio Cymru. Roedd safon yr holl gystadleuwyr yn arbennig a chafodd bob un ganmoliaeth uchel gan y beirniaid – Dafydd Jones, Osian Jones ( meibion Richard ) Cleif Harpwood a Mei Gwynedd. Roedd hi’n hyfryd clywed beirniadaeth gadarnhaol, garedig a phositif am eu perfformiadau o’r llwyfan ac roedd y cystadleuwyr, yn ogystal â’r gynulleidfa yn gwerthfawrogi’r adborth a roddwyd gan Cleif ar ran ei gyd-feirniaid.

Dyma sylwadau Panel y Beirniaid

Noson o adloniant pur â blesiodd cynulleidfa frwd ynghyd â’r panel o feirniaid.

Calonogol oedd clywed cynifer o ganeuon gwreiddiol cofiadwy gan y cystadleuwyr.

Amlygwyd nifer o dalentau newydd y bydd sôn a galw mawr amdanynt yn y dyfodol.

Crynodeb

Y cyntaf i’r llwyfan oedd y canwr gyfansoddwr Jonathan Thomas o Aberteifi. Peth mawr yw agor noson gystadleuol fel hon, ond fe glosiodd y gynulleidfa ato’n syth. Fe berfformiodd bedair o ganeuon i gyd, y cyfan yn wreiddiol ac yn gymysgedd o faledi a chaneuon rhythmig i gyfeiliant gitâr acwstig a thrydan. Defnyddiwyd trac cefndir o’i eiddo ar gyfer y gân gyntaf.; enghraifft o’i fedusrwydd a’i allu technegol. Perfformiad da iawn ar y cyfan gyda nifer o gytgannau a geiriau cofiadwy, yn enwedig y gân ddi-enw. Offerynwr digon medrus a llais da, rhywun a fyddai’n siwtio digwyddiad mewn tafarn neu neuadd gymunedol i’r dim, (ac mae perfformwyr felly yn bwysig i’r diwylliant Cymraeg yn lleol ac yn genedlaethol), ond mae’r gallu ganddo i esgyn i lwyfannau mwy. 

Yr ail i ymddangos oedd Tigs, neu Teigyn Nashman o Goleg Penfro. Fe berfformiodd ddwy gân, un yn gyfieithiad o ‘Riptide’ gan Vance Joy, ac yna ‘Diwrnod Shwmae’, cyfansoddiad gwreiddiol gan y berfformwraig ei hun. Roedd yn artist llawn cymeriad, yn wên o glust i glust a’i phersonoliaeth yn goleuo’r llwyfan. Llais hynod o swynol ac unigryw, geirio eglur a chwarae medrus ar y gitâr. Cyflwyniad cynnes ac egnïol – roedd cytgan yr ail gân yn hynod o gofiadwy. Chwa o awyr iach oedd gweld dysgwraig frwdfrydig fel Teigyn ar lwyfan y gystadleuaeth. Roedd y panel yn unfryd y dylid mentora artistiaid naturiol dalentog fel hyn â’u cynorthwyo i loywi cynnwys ynghyd â pherfformiad. Dyma Heather Jones’ a Kizzy Crawfords y dyfodol.

Y trydydd o’r artistiaid unigol a ymddangosodd ar lwyfan Hermon, oedd Danny Sioned, un a fagwyd ym Mro Preseli, ond sydd erbyn hyn yn byw ym Mhontarddulais. Dyma artist newydd oedd yn medru dal sylw cynulleidfa. Pedair o ganeuon gwreiddiol campus, dwy yn faledi llond afiaith a dwy yn ganeuon teimladwy. Mae Danny yn benthyg o brofiadau personol yn ei chyfansoddi, ac roedd ei baled ‘Macsen’ yn gân hyfryd a thrawiadol. Traddododd hanes cyfarfod â ffermwr unig, tra’n gweini mewn tafarn leol, yn ei chân ddifyr ‘Gwaelod y gwydr’, Dyma gân gafodd argraff ar y beirniaid. Roedd Danny yn gwbwl gartrefol ar lwyfan, yn hyderus a phroffesiynol ac yn cyfathrebu’n rhwydd â’i chynulleidfa. Yn ddiamau hi feddai ar lais gorau’r noson. Roedd ei chwarae’n fedrus a’i chyfansoddiadau yn ddiddorol, er byddai’n llesol iddi hi hefyd fanteisio ar fentor i loywi ychydig ar eu cynnwys, ond mater bach fydde hynny. Awgrym y panel yw y dylai pob trefnydd adloniant yn Ne Orllewin Cymru a thu hwnt afael yn ei rhif cyswllt.

Er mawr siom i’r panel, dim ond un grwp a fentrodd i lwyfan y gystadleuaeth eleni, ond am berfformiad meistrolgar gan Gelert. Doniau offerynol campus a chyfansoddi graenus, yn gerddorol ac o ran cynnwys geiriau. Perfformiad hynod o dechnegol drwyddi draw ond fe brofodd hyn yn wendid ym marn nifer o’r panel yn enwedig yn y ddwy gân gyntaf. Er cryfed y chwarae cymleth ac ambell riff cofiadwy, ‘roedd rhaid aros tan y ddwy gân olaf i brofi mawredd yr uned o bedwar. Byddai unrhyw gerddor Cymraeg yn eiddigeddus o’r gân ‘Sgidie i’w llenwi’, ac yn wir petai hon yn cael ei chyhoeddi, tybiwn y bydde hi’n boblogaidd dros ben. Er mwyn cryfhau perfformiad y band ymhellach dylid edrych ar atgyfnerthu ei swn lleisiol. Er cystal yw’r prif leisydd, un o wendidau prin y caneuon cynnar yn y set oedd absenoldeb llais cefndir. Pan gyflwynwyd ail lais yn y ddwy gân olaf fe wnaeth tipyn  o wahaniaeth i swn y band. Wedi dweud hynny perfformiad Gelert oedd uchafbwynt y cystadlu.

Talcen caled oedd dewis rhwng lleisiau unigol a grwp, ond roedd y panel yn unfryd taw Gelert oedd yn haeddu Gwobr goffa Richard a Wyn eleni, ond cystal oedd safon gyffredinol y gystadleuaeth, derbyniodd Danny Sioned wobr arbennig o ysgrif gwreiddiol o ‘Pishyn’ gan Cleif Harpwood, a chyflwynwyd tocyn yr un i ‘Wyl Fel’na Mai’ i’r tri artist unigol yn gydnabyddiaeth o’u perfformiadau arbennig.

Cafwyd perfformiad cyffrous, llawn egni gan Mei Gwynedd a’r band i gloi’r noson a dathlu dydd Miwsig Cymru. Diolch yn arbennig i bwyllgor Gŵyl Fel ‘Na Mai am drefnu’r noson ac i’r holl noddwyr sef Menter Iaith Sir Benfro, Cwmni Cware ac Olew Trefigin, Awen Teifi, Cleif Harpwood a Merch Megan am sicrhau noson lwyddiannus. 

cy