Mae Mei Gwynedd newydd rhyddhau ei ail albym fel artist unigol – ‘Y Gwir yn Erbyn y Byd’. Yn enw cyfarwydd i Gymru yn sgîl ei waith fel cerddor ac fel aelod o Beganifs, Big Leaves, Sibrydion, The Peth ac Endaf Gremlin, mae ‘Y Gwir yn Erbyn y Byd’ yn albym sy’n cyffwrdd ar sawl thema sensitif, i godi ysbryd pobl yn dilyn deunaw mis anodd tu hwnt.
Mae’r teitl ‘Y Gwir yn Erbyn y Byd’ wedi ei ddefnyddio fel dywediad dros yr oesoedd gan bobl fel Owain Glyndŵr, Buddug ac Iolo Morgannwg, dewisodd Mei Gwynedd y dywediad yma fel teitl i’r albym gan fod y neges yn un cryf, ac mor berthnasol yn 2021 ac yr oedd cannoedd o flynyddoedd yn ôl.
Yn yr albym, cawn wledd o ganeuon roc gwych, gyda sŵn gitâr eiconig a llais meddal ac angerddol Mei yn atseinio drwy bob trac. Mae’r caneuon i gyd yn cyffwrdd ar sawl thema gyfarwydd fel cariad, gobaith a nostalgia, fel dywed Mei “Mae caneuon fel “Creda’n Dy Hun” ”Kwl Kidz” “Pryd Ddoith Hyn i Ben” “Dim Ffiniau” a “Milltir Sgwar” yn edrych ar unai unigolion, neu hyd yn oed cymunedau sydd ar yr ymylon a thrio rhoi llais iddynt.